Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 5 Gorffennaf 2023

Amser y cyfarfod: 13.30
 


151(v3)  

------

<AI1>

Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.

</AI1>

<AI2>

1       Cwestiynau i’r Gweinidog Newid Hinsawdd

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI2>

<AI3>

2       Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg ac Addysg

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Gweinidog ar ôl Cwestiwn 2.

Gweld y Cwestiynau

</AI3>

<AI4>

3       Cwestiynau Amserol

(20 munud)

Gofyn i Weinidog yr Economi

Sarah Murphy (Pen-y-bont ar Ogwr): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad mewn ymateb i'r cyhoeddiad gan Zimmer Biomet y bydd yn rhoi'r gorau i weithgynhyrchu yn ei ffatri ym Mhen-y-bont ar Ogwr?

Gofyn i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mabon ap Gwynfor (Dwyfor Meirionnydd): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad yn dilyn y dystiolaeth a roddwyd gan y Prif Weinidog a Gweinidog yr Economi ynghylch diffyg parodrwydd ar gyfer y pandemig yng Nghymru yn ymchwiliad Covid-19 y DU ddoe?

</AI4>

<AI5>

4       Datganiadau 90 Eiliad

(5 munud)

</AI5>

<AI6>

5       Cynnig i nodi'r adroddiad blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Senedd ar gyfer 2022–23 - Gohiriwyd

(0 munud)

</AI6>

<AI7>

6       Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Gwasanaethau epilepsi

(60 munud)

NDM8273 Luke Fletcher (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi:

a) bod cyffredinrwydd epilepsi ledled Cymru yn 1 y cant (tua 32,000 o bobl ag epilepsi), gydag amrywiad lleol yn gysylltiedig â lefelau amddifadedd;

b) bod 11.5 o nyrsys arbenigol epilepsi cyfwerth ag amser cyfan yng Nghymru, sy'n cyfateb i gymhareb o 1 nyrs i bob 2,823 o gleifion;

c) bod adroddiad Steers (2008) yn argymell cymhareb o 300 o gleifion i un nyrs arbenigol epilepsi a fyddai'n cyfateb i gyfanswm o 107 o nyrsys arbenigol epilepsi yng Nghymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) cefnogi mesurau i leihau amseroedd aros presennol i gleifion a defnyddwyr gwasanaeth sy'n defnyddio gwasanaethau epilepsi;

b) cefnogi gweithwyr iechyd proffesiynol yng Nghymru, drwy sicrhau bod y lefelau staffio ar draws byrddau iechyd Cymru yn cael adnoddau priodol i gyflawni a chynnal cynaliadwyedd, diogelwch cleifion, ac ansawdd gwasanaeth.

Report of the Welsh Neuroscience External Expert Review Group Recommendations for Mid and South Wales (Saesneg yn unig)

Cefnogwyr

Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Huw Irranca-Davies (Ogwr)

Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Jayne Bryant (Gorllewin Casnewydd)

Joel James (Canol De Cymru)

Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)

Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)

Mark Isherwood (Gogledd Cymru)

Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)

Peredur Owen Griffiths (Dwyrain De Cymru)

Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)

Sioned Williams (Gorllewin De Cymru)

Tom Giffard (Gorllewin De Cymru)

</AI7>

<AI8>

7       Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol - Y fframwaith deddfwriaethol sy'n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg

(60 munud)

NDM8314 Delyth Jewell (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon, a Chysylltiadau Rhyngwladol, ‘Y fframwaith deddfwriaethol sy’n cefnogi darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 19 Mai 2023.

Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i’r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2023.

</AI8>

<AI9>

8       Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwasanaeth Iechyd Gwladol

(60 munud)

NDM8315 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn dathlu 75 mlynedd ers creu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

2. Yn nodi rhybudd Cymdeithas Feddygol Prydain bod gwasanaethau meddygon teulu a Gwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru mewn argyfwng ac mewn perygl o chwalu.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau 75 mlynedd nesaf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol drwy ddiwallu anghenion cleifion a staff a chynnal yr egwyddor graidd o fod yn am ddim lle bynnag y bo’i angen.

Achubwch Ein Meddygfeydd, PMT Cymru - Cymdeithas Feddygol Prydain

Llythyr gan Gymdeithas Feddygol Prydain at y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (Saesneg yn unig)

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 Heledd Fychan (Canol De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu bod preifateiddio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn fygythiad sylfaenol i'n gwasanaeth iechyd ac y dylai darparu gofal iechyd am ddim lle bynnag y bo’i angen barhau i fod yr egwyddor wrth wraidd darpariaeth gofal iechyd yng Nghymru.

</AI9>

<AI10>

9       Cyfnod Pleidleisio

 

</AI10>

<AI11>

10    Dadl Fer

(30 munud)

NDM8312 Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)

Ôl troed y fyddin yng Nghymru: pwysigrwydd y lluoedd arfog i hunaniaeth Cymru

</AI11>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Gorffennaf 2023

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.          FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>